O arbenigwyr yn rhannu eu hymchwil diweddaraf, i wyliau, gweithdai a chyfresi o gyngherddau, mae ein digwyddiadau amrywiol yn agored i bawb: myfyrwyr, staff, cyn-fyfyrwyr a'r gymuned ehangach.
A yw’n bryd ystyried beth allai fod nesaf yn eich gyrfa neu beth yr hoffech ei wneud yn wahanol yn y dyfodol? Yn y digwyddiad hwn byddwn yn clywed gan uwch economegwyr ysbrydoledig sy'n gweithio yn y llywodraeth, diwydiant ac sy'n academyddion, a fydd yn rhannu eu teithiau gyrfa, yn cynnig cyngor i'w hunain iau, ac yn ateb eich cwestiynau sy'n ymwneud â gyrfa.